Mae dy lwybrau cul yn hyfryd,
Mae dy gwmni'n dawel, fwyn,
Mae dy iau yn dirion, esmwyth,
Tra dy hunan yn ei dwyn;
Mae dy feichiau'n rhyfedd ysgafn,
Oll yn perthyn it sy'n hedd;
Fel y mêl gwnest
groesau diried,
Angeu haerllug, dewr, a'r bedd.
Dyma'r llwybr a ddewisais,
Etto 'rwyf heb 'difarhau;
Disgwyl f'etifeddiaeth 'rydwyf,
Etto heb gael ei mwynhâu:
Cyfoeth mawr, heb fesur arno,
Trysor mwy na'r moroedd maith,
Welaf draw yn nghadw i mi,
Hir brydnawn,
ar ben fy nhaith.
Diangc wnês i maes o Sodom,
Ar y gwastad 'rwyf yn byw,
Mae fy nghefn ar Gomorrah,
F'wyneb tua gwlad fy Nuw:
Fyny i'r bryniau 'rwyf am ddiangc,
Maes o sawr
y mŵg a'r tân;
Rho dy law, Dywysog bywyd,
Tyn fy enaid yn y blaen.
Ffarwel deiau, ffarwel diroedd,
A'r eilunod pena' erioed,
Mi'ch tyngheda 'ngŵydd y nefoedd
Na ddilynoch ol fy nhroed:
Myn'd rwy'n llwm tua thir y bywyd -
Ffon yn unig yn fy llaw;
Mi a 'mlaen dros yr Iorddonen,
Mae 'nghyfeillion anwyl draw.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Dyma'r llwybr a ddewisais Mae fy Nuw yn fy ngheryddu Wyneb siriol fy anwylyd |
Thy narrow paths are delightful,
Thy complany is quiet, gentle,
Thy yoke is tender, easy,
While thou art bearing it thyself;
Thy burdens are wonderfully light,
All that belongs to thee is peace;
Like the honey thou didst make
despised crosses,
Boastful, bold death, and the grave.
Here is the path which I chose,
Still I am without regrets;
Awaiting my inheritance I am,
Still without getting to enjoy it:
Great wealth, without measure to it,
Treasure greater than the vast seas,
I see yonder keeping for me,
A long afternoon,
at the end of my journey.
Escape I did out of Sodom,
Constantly I am living,
My back is to Gomorrah,
My face towards the country of my God:
Up to hills I am escaping,
Out of the smell of
the smoke and the fire;
Give thy hand, Prince of life,
Draw my soul forwards.
Farewell houses, farewell lands,
And the chief idols ever,
I adjure you in the face of heaven
Do not follow my footprints:
Going I am naked towards the land of life -
A staff only in my hand;
I am going forward across the Jordan,
There are dear friends over there.
tr. 2014 Richard B Gillion
|
|